Pigion: Highlights For Welsh Learners

  • Autor: Vários
  • Narrador: Vários
  • Editora: Podcast
  • Duração: 92:13:17
  • Mais informações

Informações:

Sinopse

Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.

Episódios

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Medi'r 10fed 2024

    10/09/2024 Duração: 24min

    Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Awst yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.Geirfa ar gyfer y bennod:-Clip 1 – Sian Phillips Cysylltiadau : Connections Dodi : To put Adrodd : To recite Am wn i : I suppose Y fraint : The honour Gwrthod : To refuseClip 2 - Megan Williams Awgrymu : To suggest Yr Unol Daleithiau : The United States Yn gyffredinol : Generally Cymuned : Community Golygydd : EditorClip 3 – Katie Hall Cyflwyniad : Introduction Gradd : Degree Y fath beth : Such a thingClip 4 – Lili Mohammad Caeredin : Edinburgh Ysbrydoli : To inspire Datblygu : To develop Sioe gerdd : Musical Llywodraeth : Government Rhyfel : War Doniol : Amusing Ysgafn : Light O ddifri : Serious Arwain y fyddin : Leading the armyClip 5 – Elen Rhys ‘Sa i’n gwybod’ : am ‘dw i ddim yn gwybod’ Mo’yn' : am ‘isio’ Diwydiant : Industry Diflannu : To disappear Y cyfnod clo : The lockdownClip 6 - Andy Bell Cyfarwydd

  • Sgwrsio: Aleighcia Scott

    10/09/2024 Duração: 40min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Aleighcia Scott.

  • Sgwrsio: Kieran McAteer

    13/08/2024 Duração: 46min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Kieran McAteer.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst y 6ed 2024

    06/08/2024 Duração: 32min

    Uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Gorffennaf.

  • Sgwrsio: Jess Martin

    09/07/2024 Duração: 48min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Jess Martin, sydd yn gyfrifol am y cyfrif Instagram ‘dysgugydajess’.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf yr 2il 2024.

    02/07/2024 Duração: 30min

    Geirfa Ar Gyfer Y Bennod:Clip 1 Cynadleddau: Conferences Ar ein cyfyl ni: Near to us Cael ein rhyfeddu: Being amazed Ar y cyd: Jointly Gwthio: To push Gweld ei eisiau e: Missing him Diolchgar: Thankful Dyletswydd: Duty Gwerthfawr: Valuable Hunanhyder: Self-confidenceClip 2 Rhaid i chi faddau i mi: You must forgive me Ar wahân: Seperately Trafferthion: Problems Antur: Adventure Bwriad: Intention Daearyddol: GeographicalClip 3 Mam-gu: Grandmother Y bwrdd: The table Cwyno: Complain Sylweddoli: To realise Atgof: A memory Dylanwad: Influence Cerddorol: Musical Yn y pendraw: In the end Magwraeth: UpbringingClip 4 Arfogi: To arm Cyfuniad: Combination Cyfranwyr: Contributors Cyflwr: Condition Rhwydd: Easy Ymateb: Response Cyfarwydd â: Familiar with Llwyth: Loads Ystrydebol: Stereotypical Sa i’n siŵr: I’m not sureClip 5 Anrhydedd: Honour Diwylliant: Culture Ymafael â: To grasp Ail-law: Second hand Arwydd o barch: A mark of respectClip 6 Rhagweld: To anticipate Awyrgylch: Atmosphere Bwrlwm: Buzz Cyfrannu: To

  • Sgwrsio: Joshua Morgan

    11/06/2024 Duração: 51min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Joshua Morgan, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel 'Sketchy Welsh'.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin y 4ydd 2024.

    04/06/2024 Duração: 27min

    Podlediad ar gyfer pobol sy'n dysgu Cymraeg, a siaradwyr Cymraeg newydd - dyma gyfle i wrando ar uchafbwyntiau rhai o raglenni Radio Cymru yn ystod mis Mai yng nghwmni Aled Hughes a Valmai Griffiths.Geirfa ar gyfer y bennod:- Clip 1 Creais i - I created Pam est ti ati - Why you went about it Cerddoriaeth - MusicClip 2 Hediadau - Flights Ymdopi - To cope Blinedig - Tiring Seibiant - A rest Effro - Awake Wrth y llyw - At the tiller Newid perchnogaeth - Change of ownership Diwydiant - Industry Adfer - To recoverClip 3 Profiadau -Experiences Antur - Adventure Rhyngwladol - International Gwerthfawr tu hwnt - Extremely valuable Anhygoel - IncredibleClip 4 Rhydychen - Oxford Rhyfedd - Strange Prif Weinidog - Prime Minister Doniol - Amusing Dwyrain Canol - Middle East Cyfreithiwr - SolicitorClip 5 Chwerthin - To laugh Y cof cynta - The first memory O waelod bol- From the bottom of the stomach Gweladwy - Visual Llwyfan - StageClip 6 Ynglŷn â - Regarding Breuddwyd - A dream ‘Swn i ddim yn synnu - I wouldn’t be surpr

  • Sgwrsio: Luciana Skidmore

    14/05/2024 Duração: 37min

    ‘Sgwrsio’ ydy enw’r podlediad hwn ac mae’n cael ei gyflwyno gan Nick Yeo sydd yn siaradwr Cymraeg newydd. Yn y bennod hon mae Nick yn sgwrsio gyda siaradwr Cymraeg newydd arall, sef Luciana Skidmore.Cafodd Luciana ei geni ym Mrasil, ond erbyn hyn mae hi yn byw ac yn gweithio yng Nghaerdydd.

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 30ain 2024.

    30/04/2024 Duração: 18min

    Ar Blât – Elinor SnowsillY cyn-chwaraewr rygbi Elinor Snowsill oedd gwestai Beca Lyne-Pirkis ar y rhaglen Ar Blât yn ddiweddar, gyda’r ddwy yn trafod ryseitiau, atgofion a sut mae bwyd yn effeithio ar ein bywydau ni bob dydd. Mae coginio yn rhan fawr o fywyd teulu Elinor felly siawns ei bod hi wedi bwyta’n dda ac yn iach pan oedd hi’n ifanc…?Cyn-chwaraewr Former player Rysetiau Recipes Atgofion Memories Gwrthod To refuse Cytbwys Balanced Adnabyddus Famous Wastad AlwaysDros Frecwast – Toiledau CyhoeddusWel dw i’n siŵr bod Elinor yn bwyta’n iachach nawr nag oedd hi pan oedd hi’n ifanc! Ar fore Llun yr 22ain o Ebrill, diffyg toiledau cyhoeddus oedd yn cael sylw ar raglen Dros Frecwast. Buodd Gethin Morris Williams yn sgwrsio gyda Lois Mererid Edwards, o Langefni ar Ynys Môn. Fel cawn ni glywed, mae Lois yn diodde o gyflwr meddygol sy’n golygu bod toiledau cyhoeddus yn bwysig iawn iddi hi … Diffyg Lack of Cyflwr Condition Coluddyn Bowel Rheolaeth Control Straen Stress Croe

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill y 23ain 2024.

    23/04/2024 Duração: 17min

    1 Trystan ac Emma – Hyd 1.49.Ar eu rhaglen wythnosol mae Trystan ac Emma yn cynnal cwis gyda Ieuan Jones neu Iodl Ieu fel mae’n cael ei alw. Ac yn ddiweddar roedd rhaid i Ieuan ofyn cwestiwn tie break i Trystan, Emma, a’u gwestai Megan...a dyma’r cwestiwn:Yn ddiweddar Recently Llongyfarchiadau Congratulations2 Rhaglen Ffion Dafis – Hyd 2.28.Wel, dan ni’n gwybod rŵan pa mor gyflym mae cangarŵ yn medru rhedeg yn tydan?Ar hyn o bryd mae‘r actor Dafydd Emyr yn perfformio mewn drama lwyfan yn Saesneg yn Theatr Clwyd, Yr Wyddgrug. Enw’r ddrama ydy ‘Kill Thy Neighbour‘ a chafodd ei sgwennu gan y dramodydd Lucie Lovatt. Mi gafodd Ffion Dafis, yn ei rhaglen bnawn Sul, sgwrs efo Dafydd Emyr er mwyn cael gwybod dipyn mwy am y ddrama. Trawiadol Striking Difrifol Serious Cyfoes Modern Cyfredol Contemporary Y felltith The curse Dychmygol Imaginary Trigolion cynhenid Indigenous residents Estroniaid cefnog Rich outsiders Rhwystro To prevent (G)oblygiadau Consequences Gostwng yn ddifrifo Fallen s

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 16eg 2024

    16/04/2024 Duração: 16min

    Pigion y Dysgwyr – FrancescaDych chi’n un o’r rhai sy’n symud eich dwylo wrth siarad? Mae ymchwil yn dangos mai Eidalwyr sy’n defnyddio y mwya o’r ‘stumiau hyn wrth siarad a rhannu straeon! Mae teulu Francesca Sciarrillo yn dod o’r Eidal a gofynnodd Alun Thomas iddi oedd hi’n cytuno gyda’r ymchwil... (Y)stumiau GesturesYmchwil ResearchYstrydebol ClichedYmwybodol AwareSylwi To noticeHunaniaeth IdentityAm wn i I supposeMynegi To expressLleisiau VoicesBarn An opinion Pigion y Dysgwyr – Llyfrau HanesBron y gallen ni glywed dwylo Francesca’n symud yn ystod y sgwrs yna on’d ife? Ond dwi’n siŵr mai llonydd iawn basai ei dwylo hi wrth drafod pethau diflas, a llyfrau hanes diflas oedd testun sgwrs Aled Hughes gyda’r hanesydd Dr Mari William fore Iau, ond beth sy’n ddiflas i’r hanesydd tybed?Llonydd StillDiflas BoringMilwrol MilitaryAgweddau AspectsYn ddiweddar RecentlyPori To browseTaro To strikeCymhleth ComplicatedRhaid i mi gyfadde(f) I must admit Ysg

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 9fed 2024

    09/04/2024 Duração: 15min

    Pigion y Dysgwyr - Rosalie Caryl 020224Rosalie Lamburn o Moggerhanger ger Bedford oedd gwestai Caryl nos Fawrth ac roedd Caryl eisiau gwybod mwy am gefndir Rosalie. Cafodd hi ei geni yn Hong Kong ar ddechrau’r rhyfel, cyn symud i fyw i Awstralia a symud wedyn o fanno i Ddeiniolen ger Llanberis. Dyma Rosalie yn dechrau drwy sôn am ei hatgofion o Awstralia. Rhyfel WarAtgofion MemoriesMynyddog MountainousAnferth HugeBobol annwyl Goodness me Llong ShipGrawnwin Grapes Pigion y Dysgwyr – Magnets Oergell Aled Hughes 030424Rosalie Lamburn oedd honna’n sôn am ei phrofiad yn symud i Gymru o Awstralia pan oedd hi’n chwech oed. Dych chi’n un o ‘r rhai sy’n hoff o brynu magnet i roi ar y ffrij, neu’r oergell, pan dych chi ar wyliau? Wel mae’n ffordd dda o gofio am y gwyliau ymhen blynyddoedd wedyn on’d yw e? Mae Lowri Mair Williams newydd fod yn teithio am 5 mis yn Asia ac fel cawn ni glywed, mae casglu magnetau yn rhan bwysig o’i gwyliau iddi hi...Traddodiad TraditionCelf ArtLlawn bwrl

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr Ebrill yr 2il 2024

    02/04/2024 Duração: 13min

    Pigion y Dysgwyr – Tomos Owen Mae dyn o Gaernarfon wedi dechrau menter newydd yn gwneud "smoothies". Beth sy’n arbennig ydy bod beic yn cael ei ddefnyddio i gynhyrchu’r "smoothies". Cafodd Aled Hughes air gyda Tomos Owen ddydd Mawrth diwetha am ei fenter. Cynhyrchu To produceAr y cyd TogetherHybu To promoteMaeth NutritionTroellwr SpinnerAtgofion MemoriesAgwedd AspectLles WelfareManteisio ar To take advantage ofAddas SuitablePigion y Dysgwyr – Andy John Wel dyna ffordd ddiddorol o gael plant i yfed "smoothies" on’d ife? Sawl Archesgob sydd gyda tatŵ tybed? Wel, mae gan Archesgob Cymru, Y Parchedicaf Andy John, datŵ mawr iawn a fe oedd gwestai Beti George ar Beti a’i Phobol yr wythnos hon… Archesgob Archbishop Y Parchedicaf The Most ReverandAtgof memoryPam lai? Why not?Olrhain To tracePigion y Dysgwyr – Pasg Hanes tatŵ’r Archesgob yn fanna ar Beti a’i Phobol. Ond sôn am ddathliadau’r Pasg oedd y Parchedig Beti Wyn James pan fuodd hi’n sôn am

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr y 26ain o Fawrth 2024

    26/03/2024 Duração: 17min

    Pigion y Dysgwyr – Shelley Musker Turner Ddydd Mercher diwetha cafodd Shan Cothi gyfle i sgwrsio gyda Shelley Musker Turner sy’n aelod o’r grwp gwerin Calan, ond yn y clip nesa ‘ma sgwrsio maen nhw am waith Shelley gyda cheffylau yn y byd ffilmiau. Gweithio fel cyfrwywr mae hi a dyma hi’n sôn mwy am y gwaith Cyfrwywr SaddlerCymwysterau Qualifications Ffodus LwcusCreadigol CreativeAil-greu To recreateLledr LeatherCyfrwy SaddleAr waith In the pipeline Amrywiaeth Variety Pigion y Dysgwyr – Mike Olson Waw, mae Shelley wedi gweithio ar rai o’r ffilmiau mwya enwog, on’d yw hi? Daw Mike Olson o Winnipeg yng Nghanada yn wreiddiol ond mae e wedi dysgu Cymraeg ac yn ei defnyddio yn ei waith bob dydd. Fe yw Dysgwr y Flwyddyn Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Mike ddydd Mercher ar ei raglen, a dyma’r cwestiwn cynta ofynnodd Aled iddo fe... Iechyd Cyhoeddus Public HealthCydweithiwr Co-workerSylwi To noticeHeb os nac oni bai Without doubt

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 19eg o Fawrth 2024

    19/03/2024 Duração: 15min

    DROS GINIO 11.03.24Buodd Rhodri Llywelyn yn holi Mahum Umer o Gaerdydd. Mae’r cyfnod Ramadan i Foslemiaid ar draws y byd wedi cychwyn. Beth mae’r ŵyl yn ei olygu i Foslem ifanc Cymraeg?Ympryd A fastCymuned CommunityNodi To markCrefyddol ReligousDatgelu To revealHunanddisgyblaeth Self disciplineLlai ffodus Less fortunateAnsicrwydd UncertaintyHeriol ChallengingAdlewyrchu To reflect ALED HUGHES 12.03.24Blas ar sut mae cyfnod Ramadan yn effeithio ar Foslemiaid ifanc Cymru yn fanna ar Dros Ginio. Pwy fasai’n meddwl ei bod yn bosib cynhyrchu gwin cyn belled i’r gogledd â Dyffryn Clwyd? Wel dyna sy’n digwydd yng Ngwinllan y Dyffryn a buodd perchennog y winllan, Gwen Davies, yn sgwrsio gydag Aled Hughes fore Mawrth am yr her o dyfu grawnwin yn yr ardal honno.Cynhyrchu To produceGwinllan VinyardHer A challengeGrawnwin GrapesLlethr SlopeGwerthfawrogi To appreciateAddas AppropriateSefydlu To establishMicro hinsawdd Microclimate Yn y man Mewn munudGwinwydd

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 12fed o Fawrth 2024

    12/03/2024 Duração: 15min

    BORE COTHI 04.03.24Gredwch chi fod 50 mlynedd ers i Abba ennill yr Eurovision gyda’u cân Waterloo? Mari Grug oedd yn cadw sedd Shan Cothi yn gynnes a buodd hi’n holi’r arbenigwr pop, Phil Davies, am lwyddiant Abba.Llwyddiant SuccessSbort a sbri FunYsgariad DivorceDwfn DeepCyfnod Period DROS GINIO 04.03.24Ie, mae caneuon Abba dal yn boblogaidd on’dyn nhw? Mae’n pedwardeg o flynyddoedd ers Streic y Glowyr a buodd Rhodri Llywelyn yn holi Amanda Powell, sydd ar fin cyhoeddi llyfr ar y streic. Roedd Amanda yn ei chanol hi fel gohebydd dan hyfforddiant yn ystod y streic yn 84 ac 85.Glowyr MinersAr fin cyhoeddi About to publishGohebydd dan hyfforddiant Trainee journalistYmhlith AmongstCymunedau CommunitiesAgweddau AttitudesCyfryngau cymdeithasol Social media RHYS MWYN 04.03.24Amanda Powell yn fanna yn cofio Streic y Glowyr. Mae’r band Cowbois Rhos Botwnnog wedi rhyddhau eu chweched albwm sef ‘Mynd â’r tŷ am dro’ ac ar raglen Rhys Mwyn buodd Iwan ac Aled o’r band yn eglu

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 5ed o Fawrth 2024

    05/03/2024 Duração: 17min

    TRYSTAN & EMMA DYDD GWENER 2302Tesni Evans gafodd air gyda Trystan & Emma fore Gwener. Cafodd hi sialens i gael tatŵ gydag enw band Y Cledrau ar ei choes! Wnaeth hi dderbyn y sialens tybed?Prif leisydd Main vocalistFfyddlon FaithfulYmwybodol Aware COFIO DYDD SUL 2502A miwsig Y Cledrau oedd i’w glywed yn y cefndir yn fanna. Gobeithio, on’d ife, bod y band yn gwerthfawrogi tatŵ Tesni. Mae hi'n flwyddyn naid sef y flwyddyn pan mae dau ddeg naw, neu naw ar hugain, o ddyddiau ym mis Chwefror. Mae'n debyg bod y siawns o gael eich geni ar y dyddiad hwnnw yn un ymhob 1,461. Un o'r mil a hanner rheini yw Elin Maher (pron. Mahyr). Felly faint yn union yw oed Elin nawr?Gwerthfawrogi To appreciateY gwirionedd The truthAr bwys Wrth ymylGwneud yn fawr Making the most Cyfoedion PeersAi peidio Or notSbo I supposeTrin To treatTynnu sylw To draw attentionRHYS MWYN DYDD LLUN 2602Elin Maher oedd honna, sydd ychydig bach yn hŷn na thair ar ddeg oed mewn gwirionedd! Ar raglen Rhys Mwyn c

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 27ain o Chwefror 2024

    27/02/2024 Duração: 13min

    Pigion Dysgwyr – JapanWythnos diwetha buodd Aled Hughes yn siarad gyda Rhian Yoshikawa sydd yn byw yn Japan. Cafodd e air gyda hi am yr arfer o dynnu sgidiau yn Japan wrth fynd mewn i dŷ rhywun. Ymwybodol AwareYn llythrennol LiterallyGofod SpaceYn y bôn EssentiallyLle ddaru Ble wnaethY tu hwnt BeyondRheolau RulesParch RespectYmddwyn To behaveMeistroli To master Pigion Dysgwyr – Adam JonesTraddodiadau diddorol Japan yn cael eu hesbonio ar raglen Aled Hughes gan Rhian Yoshikawa - diddorol on’d ife? Garddwr o Ddyffryn Aman, Sir Gaerfyrddin yw Adam Jones, neu Adam yn yr Ardd fel mae'n cael ei nabod. Dechreuodd ei ddiddordeb mewn garddio pan oedd e’n 3 oed yng ngardd ei dad-cu, neu daid, yn tyfu llysiau o bob math mewn gardd fach yng Nglanaman. Roedd ei dad-cu yn fentor pwysig iawn iddo, a fe ddechreuodd meithrin sgiliau a gwybodaeth garddio Adam.. Balch ProudAr goedd PubliclyCwato To hideRhyched o dato A furrow of potaoesTueddiad A tendency

  • Podlediad Pigion y Dysgwyr, y 20fed o Chwefror 2024

    20/02/2024 Duração: 12min

    Pigion Dysgwyr – Crempog Roedd hi’n Ddydd Mawrth Ynyd ddydd Mawrth diwetha a chafodd Shan Cothi gwmni Lisa Fearn, y gogyddes a’r awdures, ar ei rhaglen. Dyma Shan a Lisa yn sgwrsio am grempogau neu bancos!!!! Dydd Mawrth Ynyd Shrove TuesdayCrempogau/pancos PancakesPoblogaidd PopularIseldiroedd NetherlandsFfrimpan Padell ffrioBurum YeastDwlu ar Hoff iawn oGwead TextureTwym CynnesDodi Rhoi Pigion Dysgwyr – Cefn Shan Cothi a Lisa Fearn oedd y rheina’n sôn am y gwahanol mathau o grempogau sydd i’w cael. Dych chi'n cael problemau gyda'ch cefn? Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, mae bron i filiwn o bobl y Deyrnas Unedig yn dweud eu bod nhw'n rhy dost i weithio oherwydd poen yn eu cefnau. Cafodd Gwyn Loader, oedd yn cadw sedd Jennifer Jones yn dwym bnawn Mawrth, sgwrs gyda Fflur Roberts o Gaernarfon, sy'n ffisiotherapydd ers pymtheg mlynedd. Gofynnodd Gwyn iddi hi’n gynta oedd hi'n credu bod y nifer o bobl sy’n gweithio o gartre ers y pandemig wedi gwneu

página 1 de 18