Pigion: Highlights For Welsh Learners

Pigion y Dysgwyr 12fed Chwefror 2021

Informações:

Sinopse

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … TROI’R TIR Roedd gêm gynta Cymru ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn un gyffrous iawn gyda Chymru yn ennill o bum pwynt yn unig. Pwy tybed oedd Gwenan Morgan Lyttle yn ei gefnogi dydd Sadwrn gan ei bod hi bellach yn byw yng Ngogledd Iwerddon ac wedi priodi Gwyddel? Dyma i chi glip o Gwenan yn sgwrsio gyda Terwyn Davies ar Troi TirPencampwriaeth y Chwe Gwlad - Six Nations ChampionshipCefnogi - To supportGwyddel - An IrishmanGwartheg - CattleTad-cu - TaidBugail - ShepheardYn y gwaed - In the bloodY Weriniaeth - The RepublicHwyluso - To facilitateAr y ffin - On the borderDANIEL GLYN AC ELLIW GWAWR Dw i’n siŵr bod Gwenan yn hapus iawn dydd Sadwrn ar ôl i Gymru guro’r Iwerddon. Y newyddiadurwraig Elliw Gwawr oedd gwestai Daniel Glyn ar y sioe Frecwast dros y penwythnos. Dyma hi