Pigion: Highlights For Welsh Learners
Pigion Dysgwyr 9fed Ebrill 2021
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editora: Podcast
- Duração: 0:15:58
- Mais informações
Informações:
Sinopse
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DROS FRECWAST Chris Gunter ydy’r chwaraewr cyntaf yn hanes tîm pêl-droed Cymru i ennill cant o gapiau yn dilyn y gêm gyfeillgar rhwng Cymru a Mecsico wythnos diwetha. Mae cyn-golwr Cymru, Owain Fôn Williams, yn arlunydd da ac mae o wedi peintio llun arbennig i Chris i ddathlu’r achlysur. Dyma i chi Owain yn sgwrsio gydag Owain Llyr o adran chwaraeon Radio Cymru ar Dros Frecwast. Arlunydd - ArtistYn y gorffennol - In the pastDigon hawdd - Easy enoughCanfed - HundredthCais - RequestNewydd sbon - Brand newCreu - To createEi ên - His chinSbïo - EdrychCyfnod - a period of timeSIOE SADWRN…a llongyfarchiadau mawr i Chris Gunter am ennill ei ganfed cap yn y gêm rhwng Cymru a Mecsico. Roedd hon yn gêm bwysig i Sioned Dafydd hefyd – y tro cynta iddi hi sylwebu’n fyw ar S4C ar gêm bêl-droed Cymru. Mae Sioned hefyd we