Pigion: Highlights For Welsh Learners

Pigion Dysgwyr 23ain Ebrill 2021

Informações:

Sinopse

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … DEI TOMOS Buodd y canwr o Dreforus ger Abertawe, Neil Rosser, yn sôn am un o’i ganeuon enwoca ‘Ochr Treforus o’r Dre’ gyda Dei Tomos a dyma i chi flas ar y sgwrs...Enwoca - Most famousAdlewyrchu - To reflectTraddodiad - TraditionCynefin - Local areaCymeriadau - CharactersHala - To spend (time)Magwraeth - Upbringing Tylwyth - TeuluTyfu lan - Growing upCOFIO Neil Rosser yn fan’na yn sôn am ei gân ‘Ochr Treforus o’r Dre’ . Pen Llŷn oedd pwnc Cofio yr wythnos yma – a buodd John Hardy a Hywel Gwynfryn yn edrych yn ôl ar y cyfnod pan agorwyd Butlins yn ardal Pwllheli. Cafodd Hywel sgwrs gydag un oedd yn cofio’r adeg yn dda ac yn nabod Billy Butlins yn eitha da hefyd... Cyfnod - periodChwedl y bobl ddŵad - According to the visitorsGweithio’n ddiwyd -