Pigion: Highlights For Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 30ain Ebrill 2021
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editora: Podcast
- Duração: 0:15:09
- Mais informações
Informações:
Sinopse
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … BORE COTHI Oes gyda chi hoff arogl? Arogl blodau gwyllt falle, neu dân coed neu fara yn cael ei bobi? Dw i’n siŵr basech chi’n cael eich synnu wrth glywed beth yw hoff arogl Donna Edwards, sy’n chwarae rhan Britt yn Pobol y Cwm. Hi oedd gwestai Y SYNHYWRAU Bore Cothi yr wythnos diwetha– a dyma hi’n siarad am ei hoff arogl… Arogl - SmellSynhwyrau - Senses Glöwr - Coal minerMŵg - SmokeTamprwydd - DampnessSicrwydd - CertaintyTad-cu - TaidCysur - ComfortCnoi - To chewGWNEUD BYWYD YN HAWS Falle na fasai llawer yn rhoi aroglau cwrw a sigaret fel eu hoff arogl ond mae’n hawdd deall sut basen nhw’n codi hiraeth ar Donna on’d yw hi? Ar Gwneud Bywyd Yn Haws wythnos diwetha clywon ni Sian Angharad yn sôn wrth Hanna Hopwood Griffiths am ei phrofiadau’n byw gydag 'alopecia areata' ers pan oe