Pigion: Highlights For Welsh Learners

Pigion y Dysgwyr 6ed Awst 2021

Informações:

Sinopse

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Gwneud Bywyd Yn Haws Mae llawer ohonon ni wedi gorfod newid ein cynlluniau gwyliau dros cyfnod Covid, ond gwnaeth penderfyniad Carys Mai Hughes i ymestyn ei gwyliau cyn yr ail gyfnod clo newid ei bywyd hi am byth, fel clywon ni ar Gwneud Bywyd Yn Haws…Ymestyn - To extendYr ail gyfnod clo - The second lockdownSa i’n mynd gartref - Dw i ddim yn mynd adreSa i’n beio ti - I don’t blame youSwistir - SwitzerlandBore Cothi Mae teithio o gwmpas Ewrop mewn campervan wedi gwneud bywyd yn dipyn haws i Carys on’d yw e? Shelley Rees oedd yn cyflwyno Bore Cothi ddiwedd wythnos diwetha a chafodd hi gwmni’r actores Rhian Cadwaladr. Actores ie, ond hefyd mae hi’n awdur, yn ffotograffydd ac fel cawn ni glywed yn y clip nesa, mae hi’n dipyn o gogyddes hefyd ac wedi ennill gwobr gan neb llai na Nigella Lawson…Lawrlwytho - To downloadPobyddion