Pigion: Highlights For Welsh Learners
Pigion y Dysgwyr 10fed Medi 2021
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editora: Podcast
- Duração: 0:16:55
- Mais informações
Informações:
Sinopse
S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, a’r wythnos hon dyn ni’n edrych yn ôl ar bythefnos o raglenni Radio Cymru a dechreuwn ni gyda …” SHAN COTHI ....sgwrs rhwng Shan Cothi a Bardd y Mis, mis Awst sef Yr Athro Derec Llwyd Morgan. Gofynnodd Shan iddo fe ddisgrifio ei haf perffaith a dyma i chi Derec yn sôn am hafau ei blentyndod...Yr Athro - ProfesssorLlwyth o atgofion - Loads of memoriesLle maged i - Where I was brought upAmhrofiadol - InexperiencedYmdrochi - BathingCrits - BechgynDwlu ar - Hoff iawn o Yn ei blyg - CrouchingCrwmp ar ei gefn - HunchbackBroydd - AreasTrigo - BywSHAN COTHI (Hann Hopwood) Yr Athro Derec llwyd Morgan oedd hwnna’n sôn am hafau ei blentyndod. Arhoswn ni gyda Bore Cothi nawr ond y tro hwn Hannah Hopwood oedd yn eistedd yn sedd Shan Cothi a chafodd hi sgwrs am adweitheg, neu reflexology, gyda’r Adweithegydd Elin Prydderch