Pigion: Highlights For Welsh Learners

Pigion y Dysgwyr 24ain Medi 2021

Informações:

Sinopse

S'mae... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … RECORDIAU RHYS MWYN…blas ar sgwrs gafodd Rhys Mwyn gyda’r Eidales Francesca Sciarrillo, enillydd fedal y dysgwyr Eisteddfod yr Urdd 2019. Francesca oedd yn lawnsio Siart Amgen 2021 a buodd hi’n sôn am ba mor bwysig oedd artistiaid fel Datblygu, Gruff Rhys a Gwenno iddi hi wrth ddysgu Cymraeg.Amgen AlternativeTelynau HarpsLlinach LinageDylanwadu To influenceBodoli To exist Cantores Female singerAnnwyl AdorableALED HUGHESWel doedd dim eisiau i Francesca boeni dim am ei Chymraeg cyn sgwrsio efo Gwenno nac oedd – mae ei Chymraeg hi’n wych! Dych chi’n hoff o gyfresi trosedd? Mae sawl un ar y teledu y dyddiau hyn on’d oes? Mae cyfres newydd o Silent Witness ar BBC One ar hyn o bryd, ac mae Pembrokeshire Murders wedi cael enwebiad Bafta Cymru. Ond tybed pa mor realistig ydy’r rhaglenni hyn? Dyma farn Nia Bowe