Pigion: Highlights For Welsh Learners

Pigion y Dysgwyr 8fed Hydref 2021

Informações:

Sinopse

Shwmai... Dych chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Wynne Evans dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma, wythnos sy’n rhoi sylw i ddysgu Cymraeg dyn ni’n mynd at raglen … BORE COTHIMae Kayley Sydenham yn dod o Gasnewydd ac mae hi ar ei blwyddyn gynta ym Mhrifysgol Bangor yn astudio’r Gymraeg. Doedd ei rhieni hi ddim yn siarad Cymraeg o gwbl ond penderfynon nhw ei hanfon hi i ysgol Gymraeg. Hi enillodd Goron Eisteddfod yr Urdd eleni, ac yn mis Medi, hi oedd Bardd y Mis Radio Cymru. Dyma hi’n sgwrsio gyda Shan Cothi am ei chefndir, ac i ddechrau holodd Shan am ei llwyddiant hi yn yr Eisteddfod… Cefndir BackgroundLlwyddiant SuccessRhannu fy ngherddi Sharing my poemsCysur ComfortDi-Gymraeg Non Welsh speakingGwerthfawrogol AppreciativeWythnos y glas Freshers WeekCymdeithasu To socialiseGERAINT LLOYDA phob lwc i Kayley, on’d ife, ym Mhrifysgol Bangor. Aeth Geraint Lloyd draw i Ynys Enlli ym Mhen Llŷn am y tro cynta yn ei fyw