Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr 12fed o Dachwedd 2021

Informações:

Sinopse

1. Gwneud Bywyd yn Haws – Clip Cytiau Elliw Gwawr ac Angharad Haf Wyn Mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i’r argyfwng newid hinsawdd yn ystod tymor yr Hydref gyda rhaglenni arbennig o’r enw ‘Ein Planed Nawr’. Un o’r rhaglenni hynny ydy ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ ac yn rhaglen wythnos diwetha clywon ni bod defnyddio clytiau, neu cewynnau, aml-ddefnydd yn llawer iawn gwell i’r amgylchedd na defnyddio’r rhai sy’n cael eu taflu ar ôl eu defnyddio unwaith yn unig. Dyma glip o Hanna Hopwood yn sgwrsio gyda dwy fam sy’n defnyddio’r clytiau aml-ddefnydd, Angharad Haf Wyn ac Elliw Gwawr… Argyfwng newid hinsawdd Climate change crisisClytiau/cewynnau NappiesAml-ddefnydd Multiple useAmgylchedd EnvironmentYmchwil ResearchBuddsoddi To investArbrofi To experimentYmrwymo To commit‘Ta beth Beth bynnagCyflwr ConditionTueddu i hyrwyddo Tends to promote2. Ifan Evans – Gwobr i Edna JonesDyna i chi flas ar raglen ‘Gwneud Bywyd yn Haws’ gyda Hanna Hopwood sydd ar Radio Cymru bob nos