Pigion: Highlights For Welsh Learners

Podlediad Pigion y Dysgwyr Tachwedd 26ain 2021

Informações:

Sinopse

01. Bore Cothi - Daniel Jenkins Jones - Cnocell Y CoedAderyn y mis ar raglen Bore Cothi oedd Cnocell y Coed. Roedd Caryl Parry Jones wedi gweld cnocell yn ei gardd ac roedd hi eisiau gwybod mwy am yr aderyn cyffrous. Oes mwy nag un math o gnocell i’w weld yng Nghymru tybed? Dyma beth oedd gan Daniel Jenkins Jones neu ‘Jenks’ i’w ddweud wrth Caryl…. Cnocell y Coed WoodpeckerCreaduriaid CreaturesNythu To nestYmddangos To appearRhyfedd iawn Very strangeOnglau AnglesMadfall LizardNeidr SnakeHardd PrettyRhyfeddu To marvel Anarferol Unusual02. Aled Hughes - Hayley ThomasLlawer o wybodaeth yn fan’na am gnocell y coed gan Jenks. Fuoch chi’n edrych ar raglen Plant Mewn Angen y BBC nos Wener diwetha? Roedd y noson wedi codi miliynau o bunnoedd at elusennau plant. Gwych, on’d ife? Ar ddechrau wythnos her Plant Mewn Angen cafodd Aled Hughes sgwrs gyda Hayley Thomas sy’n gweithio fel swyddog gyda phrosiect Thrive, prosiect sy’n rhoi cymorth i blant a’u mama