Pigion: Highlights For Welsh Learners
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editora: Podcast
- Duração: 94:41:47
- Mais informações
Informações:
Sinopse
Y darnau gorau o raglenni BBC Radio Cymru gyda chyflwyniadau clir a syml fydd o gymorth i chi wella'ch iaith. BBC Radio Cymru highlights for Welsh learners.
Episódios
-
Pigion y Dysgwyr 28ain Awst 2020
28/08/2020 Duração: 14minMarc Roberts, Huw Owen o Cyw, Cetra Coverdale Pearson, Osian Dwyfor
-
Pigion y Dysgwyr 21ain Awst 2020
21/08/2020 Duração: 13minMALI LLYFNI Yn ystod y pythefnos nesa, mae BBC Radio Cymru yn rhoi sylw i effaith Covid 19 ar bobl ifanc ar ein rhaglenni - ‘Haf Dan Glo’ . Nos Lun diwetha cafodd Nia Lloyd Jones sgwrs gyda Mali Llyfni o Benygroes yng Ngwynedd i holi sut oedd y pandemig wedi effeithio arni hi...Cyflwyno To presentAmgylchiadau teuluol Family circumstancesGweithwyr allweddol Key workersWedi (fy) nharo i Has struck meAnsicrwydd UncertaintyY gymuned wedi eich cofleidio chi The community has embraced youHoli To ask aboutCyflogi To employY genhedlaeth nesa’ The next generationRhyfedd StrangeREBECCA HAYES Mae John Hardy yn cyflwyno rhaglen gynnar iawn ar Radio Cymru, ac os wnewch chi godi’n ddigon cynnar i wrando arni hi mae’n gymysgedd hyfryd ben bore o gerddoriaeth a sgyrsiau diddorol. Dyma i chi flas ar sgwrs gyda Rebecca Hayes fasai’n berthnasol i bob un ohonoch chi’n sy’n codi’n gynnar, gan gynnwy
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 13eg 2020
14/08/2020 Duração: 16minDoedd dim Eisteddfod Genedlaethol eleni ond mi fyddwn ni’n edrych yn ôl ar Ŵyl AmGen Radio Cymru ar Pigion yr wythnos ymaMae hi’n draddodiad i gael cywydd croeso i groesawu’r Eisteddfod i’r ardal bob blwyddyn. Wrth gwrs mae pethau’n wahanol eleni ond ysgrifennodd y bardd Ceri Wyn Jones gywydd croeso i’r Eisteddfodd AmGen a dyma hi i chi…Amgen AlternativeBardd PoetCywydd Croeso A poem to welcome the EisteddfodCerdd PoemSbort FunAdeg anghyffredin Unusual periodEr nad oedd yr Eisteddfod yn debyg i’r un dyn ni wedi arfer â hi , mae’r dysgwyr yn dal i gael lle pwysig iawn yn yr Eisteddfod AmGen. Dros y penwythnos cyhoeddodd Hywel Gwynfryn a Rhiannon Lewis enillydd Tlws Dysgwr y Flwyddyn a dyma i chi Dona Lewis o’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn darllen y feiriniadaeth ar ran y tri beirniad…Cyhoeddi To announceBeirniadaeth AdjudicationEin hysbrydoli Inspiring usRownd derfynol FinalEu hymdrechion Their efforts
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Awst 7fed 2020
07/08/2020 Duração: 13minCofio Does dim llawer ohonon ni am fynd ar daith dramor eleni nac oes? Teithiau Tramor oedd pwnc Cofio wythnos diwetha a dyma glip o Emyr Wyn, Huw Ceredig, Dewi Pws, Ifan Gruffydd a John Pierce Jones yn chwarae’r rownd Beth yn y Byd ar y rhaglen Pwlffacan yn 2001. Bwriad y rownd oedd gweld pwy oedd y gorau am nabod ieithoedd tramor gan ddechrau gyda’r geiriau ‘estoy embarazada’Hyddysg LearnedGwybodus KnowledgeableBryn Terfel a Malcom Allen Ryn ni’n nabod Bryn Terfel fel un o leisiau enwoca Cymru – ond mae e hefyd yn ffan mawr o bêl-droed a fe oedd gwestai y cyn-bêldroediwr Malcolm Allen ar y Coridor Ansicrwydd. Dyma Bryn yn sôn am yr adegau pan wnaeth e gwrdd â’i arwyr o fyd opera a’r byd ffilmiau….Alla i fentro dweud I can say without doubt Yn rhan annatod An integral partY tymheredd The temperatureWedi torri tir Has broken the ground Ein cenhedlaeth ni Our generationCerddor MusicianManon Steffan Ross Rhywun arall sy’n ffan o bêl-droed ydy’r awdures Manon Steffan Ross
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 31ain 2020
31/07/2020 Duração: 14minAled Hughes a hanes Sabrina VergeeEfallai eich bod wedi clywed am rai sy wedi dringo 14 copa ucha Eryri, sy’n ddipyn o gamp. Ond mae Sabrina Verjee o Cumbria wedi rhedeg ‘Y Wrainwrights’ yn Ardal y Llynnoedd - 214 copa, ie 214, a hynny mewn 6 diwrnod, 17 awr a 51 munud. Hi ydy’r ferch gynta i wneud hyn ac un sy’n ei hadnabod yn dda ydy Jane Harries, golygydd Cylchgrawn Adventure She, a chafodd Aled Hughes dipyn o hanes Sabrina ganddi ar ei raglen...Copa SummitCamp AchievementEdmygu To admireParchu To respectYn ddi-stop Without stoppingAnhygoel IncredibleMenyw DynesBwriadu To intendMor glou So quicklyAruthrol TremendouslyChwyddodd e lan It swelled upDychmygu To imagineDyrchafiad Leed United Mae ffans Leeds United yn meddwl bod y tîm hwnnw wedi creu dipyn o gamp, drwy ennill dyrchafiad i Uwchgynghrair Lloegr ar ôl iddyn nhw ddisgyn o’r Uwchgynghrair 16 o flynyddoedd yn ôl
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 24ain 2020
24/07/2020 Duração: 15minBeti George ac Aled Roberts Comisiynydd y Gymraeg, Aled Roberts, oedd gwestai Beti George wythnos diwetha'. Cafodd Aled ei fagu yn Rhosllannerchrugog, oedd yn bentref Cymraeg ei iaith ger Wrecsam. Mae gan bobl Rhos acen arbennig iawn ond fel ddwedodd Aled wrth Beti, doedd hynny ddim yn fantais bob tro... Mantais advantageAr eich tyfiant growing upSwydd allweddol a key jobDiogelu to protectHwyrach maybePwysau pressureProfiad experienceIfan Evans a Sara Gibson Daeth y newyddiadurwraig Sara Gibson i ymuno ag Ifan Evans ddydd Mercher i sôn am rai o straeon mwya poblogaidd Cymru Fyw, ond yn y clip nesa mae hi’n rhoi hanes her ffotograffiaeth arbennig iawn..Her challengeY cyfnod clo lockdownSefydlu to establishSathru to trampleCywrain skillfulCofnod a recordBord bwrddPwerus iawn very powerfulByw Heb Blastig Mae defnyddio llai o blastig yn cael ei gyfri’n un o’r heriau pwysica o ran achub y blaned. Ydych chi wedi lleihau eich defnydd o blastig yn y blynyddoedd diwet
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Gorffennaf 17eg 2020
17/07/2020 Duração: 16minRHYS GWYNFOR Y canwr Rhys Gwynfor oedd yn cadw cwmni i Shelley a Rhydian ar y Sioe Sadwrn. Cawn glywed ychydig o hanes teulu Rhys i ddechrau cyn iddo fe rannu’r gyfrinach am sut i ennill cystadleuaeth Cân i Gymru, fel gwnaeth e gyda’r band Jessop a’r Sgweiri....Cyfrinach Secret Cystadleuaeth Competition Cynllun Plan Pentre genedigol Native village Del Pert Mwy neu lai More or less Namyn With the exception of Ar lwyfan On stage Twyllo To cheatHENO AUR AC ANGHARAD MAIR Mae cyfres newydd yn edrych yn ôl ar raglen Heno yn y 90au wedi dechrau ar S4C – Heno Aur. Angharad Mair fuodd yn sôn am y gwaith o gasglu clipiau o’r archif ar gyfer y gyfres gyda Lisa Gwilym fore Sul. Cyfres Series Casglu Gathering Digideiddo Digitising Ymwybodol Aware Gwerth chweil Worthwhile Gwahanol agweddau Different aspects Amlwg Obvious Cyfweliadau Interviews Dadansoddi breuddwydion Analysing Diniwed InnocentPENBWLYDD HAPUS CARYL LEWIS Yr awdures Caryl
-
Podlediad Pigion i Ddysgwyr 10fed o Orffennnaf
10/07/2020 Duração: 16minAl Lewis a LerpwlEleni enillodd clwb pêl-droed Lerpwl Uwchgynghrair Lloegr am y tro cynta erioed. Mae’r canwr Al Lewis yn ffan mawr o’r clwb a gofynnodd Dylan Jones iddo fe ar Ar y Marc sut oedd e’n teimlo ar ôl clywed y newyddion am lwyddiant Lerpwl… Dy deimladau Your feelings Uwchgynghrair Permier League Rhyddhad Relief Boddhad Satisfaction Gwaith ymchwil Research Cynghrair y Pencampwyr Champions League Moronen A carrot Addasu To modifyY Cigydd Rob Rattray Nos Fawrth buodd Geraint Lloyd yn sgwrsio gyda Rob Rattray o Lanfihangel y Creuddyn ger Aberystwyth, sydd yn dathlu pedwardeg mlynedd eleni o weithio fel cigydd, a dyma fe’n cofio’r dyddiau cynnar gyda Geraint. Chi’n go lew? Are you OK? Bwtsera Butchering Mam-gu a tad-cu Grandmother and grandfather ‘Benu To finish Palles i I refused to Dyn cyn ei amser A man before his time Ar yr asgwrn On the bone Coleg Amaethyddol Agricultural College Yn fy ngwa
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 3ydd o Orffennaf
03/07/2020 Duração: 15minEnw’r Clip: Love Island Enw’r rhaglen: Y Sioe Sadwrn…ydych chi un o ffans Love island? Doedd Shelley Rees un o gyflwynwyr Y Sioe Sadwrn ddim yn gwybod beth oedd yn digwydd ar y rhaglen ond cafodd hi a Rhydian Bowen Phillips gyfle ar y Sioe Sadwrn i holi un oedd wedi cymryd rhan yn y rhaglen – Connagh Howard o Gaerdydd… Cyflwynwyr PresentersCyfle OpportunityAm y gorau For the bestWedi arafu Had slowed downCwrdd â To meetTroslais VoiceoverBagiau ffa Bean bagsCymreictod WelshnessEnw’r Clip: Robert Llywelyn Tyler Enw’r rhaglen: Beti a’i Phobol Hanesydd o Gasnewydd, Robert Llywelyn Tyler, gafodd ei holi gan Beti George yr wythnos hon. Mae Robert yn byw yn Abu Dhabi erbyn hyn ond mae hanes Cymru a’r Gymraeg yn bwysig iawn iddo feHanesydd Historian Glöwr Coal MinerYr Ail Ryfel Byd The Second World warCasnewydd Newport (Gwent)Stad Cyngor Council estateYsgol Uwchradd Secondary schoolLladin LatinArddegau Teenage yearsCadw cysylltiad To keep
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 26ain 2020
26/06/2020 Duração: 15minAL LEWIS AC ENDAF EMLYN Roedd Endaf Emlyn yn seren y byd pop yn Gymraeg ac yn Saesneg yn ystod y chwedegau a’r saithdegau. Dydd Gwener diwetha’ cafodd 3 albym Endaf eu rhyddhau yn ddigidol. Mae Al Lewis yn ffan mawr o’i waith a gofynnodd Rhys Mwyn iddo ddewis rhai o’i hoff ganeuon gan Endaf EmlynCanwr cyfansoddwr Singer songwriter Wnaeth fy nenu i Attracted meCreu enw Made a nameCysyniadol ConceptualO flaen y gad Ahead of his timeDiethr Unheard ofSenglau SinglesYn cael eu clymu at ei gilydd Are tied in together Macrell MackerelTeimlad hireithus A nostalgic feelingANTONIO RIZZO A GWIN CYMREIG LLANSADWRN Mae Antonio Rizzo yn dod o Fanceinion yn wreiddiol ac mae ei rieni yn dod o’r Eidal. Dysgodd e Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac erbyn hyn mae e’n ei siarad yn rhugl. Mae Antonio wedi bod yn cynhyrchu gwin ers 2006 ac mae e’n gobeithio agor gwinllan yn Llansadwrn, Sir Gâr, yn y dyfodol. Shan Cothi gafodd ei hanes Manceinion ManchesterCynhyrchu To produceGwi
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 19eg 2020
19/06/2020 Duração: 15minHEATHER JONES Mae Dewi Llwyd yn dymuno pen-blwydd hapus i un o’i westeion ar ei raglen bob bore Sul. Yr wythnos yma, y gantores Heather Jones oedd yn torri’r gacen pen-blwydd. Dyma Heather yn cofio am benblwyddi’r gorffennol – ei magwraeth yng Nghaerdydd a’i pherthynas gyda’r canwr Geraint Jarman…Magwraeth UpbringingHudolus MagicalPlentyndod ChildhoodCernyw CornwallBywiog LivelySwil ShyDenu To attractEfengyl Tangnefedd The Gospel of Peace (a hymn)Yn benderfynol DeterminedIFAN EVANS A'R WELSH WHISPERER Bachgen bach deg mlwydd oed sy’n mynd i Ysgol Cilie Parc ydy Osian, ac ei arwr ydy’r perfformiwr Welsh Whisperer. Ar raglen Ifan Evans cafodd Osian y cyfle i holi ei arwr, ac roedd gyda fe gwestiynau diddorol iawn i’r Welsh Whisperer…Arwr Hero Yn y man In a momentEnwoca Most famousGlou QuickCerddoriaeth MusicDeuawd DuetRhed! Run! Hendy-gwyn WhitlandYNYS YR HUNAN YNYSWYR Bob wythnos ar y rhaglen Ynys yr Hunan Ynyswyr mae dau westai yn trafod eu hoff lyf
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 12fed 2020
12/06/2020 Duração: 16minLOWRI MORGAN A DANIEL GLYNHanes Lowri Morgan yn teithio dwy awr i waelod Môr Iwerydd mewn llong danfor, er mwyn gweld y Titanic. Mae Lowri wedi cael sawl antur yn ystod ei bywyd ac mae wedi sgwennu amdanyn nhw yn ei llyfr newydd ‘Beyond Limits’ . Dyma hi’n sôn wrth Daniel Glyn sut oedd hi’n teimlo wrth weld y Titanic… Môr Iwerydd The Atlantic OceanLlong danfor SubmarineYn gwmws Exactlly Ei cholli hi Losing it (mentally)Lleddfu To soothe Cwympo To fallYmchwil ResearchPa mor glou How quicklySylweddoli To realiseCymaint o fraint How much of a privilegeCarreg fedd TombstoneNON ROBERTSMae hi’n adeg cneifio ar ein ffermydd ac mae llawer o bobl ifanc drwy Gymru yn mynd o amgylch ffermydd i helpu gyda ‘r gwaith. Dyma Non Roberts, merch fferm o Dalyllychau, Caerfyrddin, a myfyrwraig ym Mhrifysgol Aberystwyth, yn sôn wrth Terwyn Davies am sut mae hi a’i ffrindiau’
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mehefin 5ed 2020
05/06/2020 Duração: 16minYNYS YR HUNAN YNYSWYRMewn cyfres newydd ar Radio Cymru, mae Dylan Ebenezer yn cael dewis pwy sy’n cael aros ar yr ynys gyda fe ar ôl iddo fe glywed beth yw hoff lyfrau, caneuon a ffilmiau’r gwesteion. Dyma i chi’r chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchell yn trio perswadio Dylan i adael iddo fe aros ar yr ynys drwy sôn am ei hoff lyfr...Hunan Ynyswyr’ Self IsolatorsAwgrymu To suggest Cyfres o ddarlithoedd A series of lecturesYn seiliedig ar based onCyflawni breuddwydion Fulfilling dreamsLlefain To cryCanllawiau GuidelinesYsbrodoli To inspireDarganfod To discoverDelwedd ImageAlla i ddychmygu I can imagineEISTEDDFOD TDrwy’r wythnos diwetha buodd Ifan Jones Evans a Nia Lloyd Jones yn rhannu pob cystadleuaeth yr Eisteddfod hon gyda gwrandawyr Radio Cymru. Dydd Mawrth clywon ni gystadleuaeth yr Ymgom i flwyddyn 6 ac iau. Ymgom Enfys Caerfyrddin o Adran Myrddin enillodd – sef Tomos, Esyllt, Serian ac Efa Haf, ac mi gafodd Nia sgwrs gyda Efa Haf i gael gwybod mwy am yr ymgom arbennig yma
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr Mai 28ain 2020
28/05/2020 Duração: 15minMyrddin ap Dafydd ar Aled HughesDw i’n sîwr bod y rhan fwya ohonon ni wedi dysgu geirfa newydd un ai yn y dosbarth, wrth ddarllen neu, wrth gwrs, drwy wrando ar Radio Cymru. Ond mae na nifer o eiriau tafodieithiol wnawn ni ond eu clywed drwy ymweld ag ardaloedd arbennig yng Nghymru. Dych chi wedi clywed y gair ‘ “wilibowan” a “sbensh” er enghraifft? Dyma oedd gan Myrddin ap Dafydd i’w ddweud am hen eiriau’r Gymraeg wrth Aled Hughes yr wythnos hon. Tafodieithol Dialectal Wedi gwirioni Really likedEhangach Wider Y fraint The privilegeYn hanu o Hails fromYn y bôn EssentiallyMoethus Luxurious Cogio PretendingYn glymau In KnotsFfashiwn beth Such a thing Catrin Gerallt a Hannah Daniel - Dau Cyn Dau ar Dros GinioMam a merch o Gaerdydd fuodd yn cadw cwmni i Dewi Llwyd ar Dau Cyn Dau yr wythnos yma – sef Catrin Gerallt a Hannah Daniel. Mae Catrin Gerallt yn newyddiadurwraig brofiadol iawn sydd wedi gweithio
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 22ain o Fai 2020
22/05/2020 Duração: 24minIFAN EVANS Prysor LewisMae Prysor Lewis yn dod o Aberaeron yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae e’n byw ar fferm yn nhalaith Texas yn yr Unol Daleithiau mewn cymuned o’r enw Guthrie. Mae e’n gowboi go iawn fel clywon ni pan gafodd Ifan Evans sgwrs gyda fe am ei fywyd a’i waith, a chywed ychydig o hanes ei gariad newydd hefyd!Talaith State Yr Unol Daleithiau The United States Cymuned Community Sa i’n credu I don’t believe Ambell gymeriad The odd character Becso To worry Pen tost Headache Llawn canmoliaeth Full of praise Mas tu fas Outside --------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------DROS GINIO Fformiwla 1Roedd Pencampwriaeth Fformiwla 1 y Byd yn 70 oed wythnos yma. Mae Gwilym Mason Evans o Aberystwyth wedi gweithio gyda thimau fel Bennetton a Honda sawl gwaith yn ystod y Bencampwriaethau. Ond gweithio i’r Llu Awyr oedd e
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 15fed o Fai 2020
15/05/2020 Duração: 21minS'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Geraint Lloyd – Mercher 06/05/20 Dwynwen Hedd…mae Dwynwen Hedd yn dod o Drefach ger Llanbedr Pont Steffan yng Ngheredigion yn wreiddiol ond erbyn hyn mae hi’n byw yn y Swisdir yng nghanol y mynyddoedd. Cafodd Geraint Lloyd sgwrs gyda hi ar ei raglen nos Fercher, ac yn y darn yma mae hi’n esbonio wrth Geraint sut mae ei bywyd hi wedi newid yn ddiweddar.Clecs GossipRheolau RulesDipyn llymach Quite a bit stricterCenfigefnus JealousFfili Can’tY byd arlwyo The catering worldTymhorol SeasonalDiflannu To disappearMynd i bennu Going to endAroglu To smell--------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------Storiwyr – Sadwrn 09/05/20Stori FfionClywon ni sawl stori a jôc yn y rhaglen Storiwyr dydd Sadwrn. Dyn ni’n mynd i wrando na
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 7fed o Fai 2020
07/05/2020 Duração: 16minS'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma …” Beti A’I Phobol – Sul a Iau – 26 a 30/04/20 Cai WilshawGwestai Beti George oedd y sylwebydd gwleidyddol Cai Wilshaw ac yn y clip yma mae e’n sôn am ei brofiad o weithio fel intern i Nancy Pelosi, sef menyw, neu ddynes, fwya pwerus Unol Daleithiau AmericaSylwebydd gwleidyddol Political correspondentEtholiadau ElectionsCyswllt ConnectionRhydychen OxfordYmweliad A visitGwleidyddiaeth PoliticsY Gyngres CongressSwyddfa’r wasg The press officeChwant DesireCynhadleddau’r wasg Press conferences --------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------COFIO – Sul a Mercher 03 a 06/05/20 Colur Cai Wilshaw oedd hwnna’n sôn wrth Beti George am Nancy Pelosi. Gwesteion gwahanol iawn i Cai oedd gan Beti ar un o’i rhaglenni yn 1976. Pobol ifanc oedd the
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 30ain o Ebrill
30/04/2020 Duração: 19minS'mae... Dach chi'n gwrando ar Pigion - podlediad wythnosol Radio Cymru i'r rhai sy'n dysgu ac sydd wedi dysgu Cymraeg. Tomos Morse dw i, ac i ddechrau'r wythnos yma … Recordiau Rhys Mwyn Llun 20/04/20 Heledd Watkins "Mae clipiau'r wythnos hon i gyd yn sôn am sut mae gwahanol bobl yn ymdopi gyda'r sefyllfa anodd sydd wedi codi oherwydd Covid-19. Dyma Heledd Watkins o'r band HMS Morris yn dweud ar ba gerddoriaeth mae hi'n gwrando yn ystod y cyfnod yma..." ymdopi - to cope profiadau cerddorol - musical experiences gwyllt a gwallgof - wild and mad llwyth - loads droeon - several times yn benodol - specifically syllu - staring gorfeddwl - overthinking cynrychioli - to represent trefnu - arrange Sioe Frecwast "Sul – 19/04/20 Meilir Rhys Williams ".Nesa, sut dach chi'n cadw'n brysur yn y cyfnod anodd yma - garddio, coginio, gwrando ar Radio Cymru? Ar y Sioe Frecwast dydd Llun clywon ni sut oedd yr actor Meilir Rhys Williams o Rownd a Rownd yn cadw ei hun yn brysu
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 23ain o Ebrill 2020
23/04/2020 Duração: 16minAled Hughes Gwener 17/04/20 Breuddwydio "Dych chi'n cofio eich breuddwydion? Dych chi'n breuddwydio am bethau gwahanol oherwydd argyfwng y feirws? Dyna rai o'r pethau gododd mewn sgwrs gafodd Ffion Dafis gyda'r seiolegydd Dr Mair Edwards. Yn ôl Dr Mair mae cwsg a breuddwydio yn bwysig iawn i’n iechyd meddwl ni ac mae'r adeg anodd yma yn gwneud i bobl freuddwydio mewn ffyrdd gwahanol iawn"breuddwydion - dreams argyfwng - crisis hynod lachar - extremely vivid yr eglurhâd - the explanation trwmgwsg - deep sleep ymwybodol - aware pryder - concern yn fwy tebygol - more likely cyfuniad - a combination ansawdd cwsg - the quality of sleep Ifan Evans Dydd Iau 16/04/20 Bronwen Lewis"Ffion Dafis oedd honna yn eistedd yn sedd Aled Hughes ddydd Gwener diwetha ac yn cael sgwrs gyda'r Dr Mair Edwards am freuddwydio. Nid Ffion oedd yr unig un oedd yn eistedd yn sedd y cyflwynydd arferol. Dydd Iau Trystan Ellis Morris oedd yn cymryd lle Ifan Evans a buodd e'n sgwrsio gyda'r gantores Bronwen Lewis o Flae
-
Podlediad Pigion y Dysgwyr 16eg o Ebrill 2020
16/04/2020 Duração: 16min"…clip o Fy Stori i, a stori Glyn Jones sy'n dioddef o'r cyflwr MS oedd yn cael ei rhannu wythnos diwetha. Yn y clip yma mae e'n sôn am rai o'r trafferthion mae e'n wynebu wrth ddefnyddio cadair olwyn ar drafnidiaeth gyhoeddus…. " Fy Stori i - Glyn Jones dioddef o'r cyflwr - suffering from the condition trafferthion - problems cadair olwyn - wheelchair trafnidiaeth gyhoeddus - public transport sicrhau - to ensure 'set ti'n synnu - you'd be surprised anghyfreithlon - illegal dwn i'm faint o weithiau - I don't know how many times sefyllfa - situation ymddiheuro - to apologise"Glyn Jones oedd hwnna'n sôn am rai o'r trafferthion wrth ddefnyddio cadair olwyn ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'r rhan fwya'r clipiau wythnos yma yn cyfeirio at sut mae pobl yn ymdopi gyda'r sefyllfa sy'n bodoli oherwydd Covid-19. Dyma i chi fam a merch, Gwenda a Gaynor Owen, oedd yn arfer gweld ei gilydd bob dydd yn y gwaith ond sy nawr yn gorfod dibynnu ar Facetime i gadw mewn cysylltiad... " Dros Ginio - Gwenda a Gaynor y