Beti A'i Phobol

  • Autor: Vários
  • Narrador: Vários
  • Editora: Podcast
  • Duração: 441:47:37
  • Mais informações

Informações:

Sinopse

Beti George yn holi rhai o bobl mwyaf diddorol Cymru. Beti George interviews some of Wales' most interesting people

Episódios

  • Anthony Matthews Jones

    24/11/2024 Duração: 49min

    Anthony Matthews Jones yw gwestai Beti George.Yn wreiddiol o Ynys Môn, mae'n byw yn Iwerddon ers dros bum mlynedd ar hugain.Mae'n gweithio fel ymgynghorydd ariannol, ac wedi sefydlu ei gwmni ei hun.Ei ddiddordeb mawr yw canu, a hynny ers pan oedd yn ifanc. Mae'n teithio'r byd yn annerch mewn cynhadleddau, ac yn canu ynddynt hefyd.

  • Meirion MacIntyre Huws

    10/11/2024 Duração: 49min

    Meirion MacIntyre Huws yw gwestai Beti George.Mae'n gyfarwydd iawn i ni fel bardd, ac ef oedd Prifardd Eisteddfod Genedlaethol Llanelwedd 1993.Mae Mei Mac yn un sy'n barod i fentro a wynebu heriau newydd.Bu'n gweithio i'r Bwrdd Dŵr cyn ac ar ôl bod yn y Brifysgol yng Nghaerdydd, cyn ymhel â sawl maes arall fel cartwnydd, dylunydd, rhedeg safle glampio, a gwesty.Bellach mae ganddo gwmni paneli solar, ac mae'n gweithio fel swyddog enwau lleoedd i Gyngor Gwynedd.

  • Yr Athro Angharad Puw Davies

    03/11/2024 Duração: 49min

    Yr Athro Angharad Puw Davies yw gwestai Beti George.Fe'i magwyd yn Yr Wyddgrug, ond mae hi bellach yn byw yn AbertaweMae hi'n arbenigo mewn microbioleg feddygol a heintiau, ac yn ystod y rhaglen fe fydd yn trafod y diciâu, gwaith ymchwil mewn carchar yn Llundain, ymweliad â Siberia, a cryptosporidiosis.Mae ganddi ddiddordeb mewn llenyddiaeth ac mae'n cynganeddu.

  • Richard Jones-Parry

    27/10/2024 Duração: 47min

    Richard Jones-Parry yw gwestai Beti George.Mab fferm Bryn Bachau rhwng Abererch a Chwilog yw Richard. Mae'n gyn athro Cemeg yn Ysgol Breswyl Marlborough, ac wedi bod yn dysgu yn Awstralia hefyd.Fe dreuliodd gyfnod hefo'i deulu yn gwirfoddoli yn Ghana. Mae'n treulio pedwar mis o'r flwyddyn yng Nghymru a'r gweddill yn Adelaide, Awstralia.

  • Aled Lewis

    20/10/2024 Duração: 49min

    Aled Lewis yw gwestai Beti George.Mae'n gynllunydd a saer dodrefn, sydd wedi sefydlu ei fusnes ei hun ers pum mlynedd ar hugain.Cafodd ei fagu ar fferm ger Machynlleth gan ddod dan ddylanwad ei dad - oedd yn grefftwr da.Yn 16 oed fe aeth i Goleg Rycotewood yn Rhydychen i astudio gwaith coed a dylunio dodrefn cyn mynd draw i America i weithio. Mae wedi treulio cyfnod yn Ne Affrica hefyd yn y cyfnod cyn i Apartheid ddod i ben.Mae ganddo ddiddordeb mawr mewn hwylio.

  • Malachy Owain Edwards

    13/10/2024 Duração: 50min

    Beti George yn sgwrsio gyda'r awdur Malachy Owain Edwards. Cafodd Malachy ei fagu yn Ffynnon Taf. Saesneg oedd iaith yr aelwyd, ond fe aeth ei dad ati i ddysgu Cymraeg.Mae'n trafod y ffaith ei fod eisiau bod yn awdur, ac fe gafodd ei fagu yng nghanol llyfrau. Fe wnaeth ei hunangofiant 'Y Delyn Aur' gyrraedd rhestr fer Llyfr Ffeithiol Greadigol 'Llyfr y Flwyddyn' eleni.Wrth drafod ei hunaniaeth mae'n mynd a ni ar daith i Lundain, Hong Kong, Iwerddon a Barbados, ac mae dylanwad ei deulu yn fawr arno.Mae Malachy bellach yn byw hefo'i wraig Celyn a'r teulu ar Ynys Môn.

  • Iestyn George

    06/10/2024 Duração: 01h04min

    Mewn rhaglen arbennig i nodi 40 mlynedd o Beti a'i Phobol, Beti George sy'n holi ei mab Iestyn George am ei waith gyda NME, GQ, marchnata'r Manic Street Preachers yn y dyddiau cynnar, ac am ei fagwraeth ganddi hi. Fe gyflwynodd Jamie Oliver i sylw'r byd, ac roedd yna ar ddechrau perthynas David a Victoria Beckham. Mae bellach yn darlithio ym Mhrifysgol Brighton ac yn Dad i ddau.

  • Dr Carwyn Jones

    29/09/2024 Duração: 50min

    Dr Carwyn Jones yw gwestai Beti George.Mae'n Athro mewn moeseg chwaraeon yn gweithio yn Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Caerdydd - ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.Ei brif ddiddordebau ymchwil yw moeseg chwaraeon yn gyffredinol a'r berthynas rhwng chwaraeon ac yfed alcohol yn arbennig, ac mae wedi cyhoeddi nifer o erthyglau yn y Gymraeg a'r Saesneg sy'n ymdrin â phynciau sy'n amrywio o ddosbarthiad yn y Gemau Paralympaidd, rheolau cymhwysedd cenedlaethol, cydraddoldeb rhwng y rhywiau, hiliaeth a thyfu cymeriad drwy chwaraeon.Mae'n wreiddiol o Ddinbych ond bellach yn byw yn Abergwyngregyn gyda'i wraig a'i fab.Mae dau beth tyngedfennol wedi digwydd ym mywyd Carwyn - rhoi'r gorau i yfed alcohol a chael tiwmor ar ei ymennydd. Mae'n trafod yn agored gyda Beti y cyfnodau anodd yma yn ei fywyd, ac yn dewis pedair cân sydd yn cysylltu â gwahanol gyfnodau o'i fywyd.

  • Dr Ffion Reynolds

    22/09/2024 Duração: 50min

    Beti George yn sgwrsio gyda Dr Ffion Reynolds sydd yn Uwch Reolwr Digwyddiadau Treftadaeth a Chelfyddydau gyda Cadw.Mae Ffion wedi ei magu yng Nghaerdydd. Un o’r geiriau cyntaf ddysgodd Ffion oedd mabwysiadu. Gwnaeth ei rhieni’n n siŵr fod Ffion y ymwybodol o’i chefndir. Dywedwyd wrthi eu bod wedi sgwennu llythyr o amgylch y byd i ffeindio merch fach. Roeddynt wedi sgwennu i China, Japan Affrica ac fe gawsant ateb i’w llythyr drwy gael Ffion.Mae wedi treulio amser yn gweithio yn Namibia a bu'n Dde America lle bu'n byw efo’r trigolion mewn un o'r fforestydd glaw ac yn astudio efo’r Shaman. Mae gan Ffion ddiddordeb mawr mewn madarch! Ceir biliynau o wahanol fathau o fadarch. Mae Ffion hefyd yn credu taw madarch sy’n mynd i achub y blaned!

  • Iolo Eilian

    15/09/2024 Duração: 49min

    Beti George sydd yn sgwrsio gyda Iolo Eilian, Cyfarwyddwr Cynorthwyol Cenedlaethol iechyd a gofal yn yr Iwerddon. Mae'n wreiddiol o Lanrug, ac ar ôl treulio amser fel nyrs a gweithiwr cymdeithasol yn Wrecsam a Gogledd Iwerddon, mae bellach yn byw yn Galway gyda'i deulu ac yn gyfrifol am newidiadau i'r gwasanaeth iechyd a gofal yn y weriniaeth, ac yn rheoli cyllid o 23.5 biliwn o bunnoedd.

  • Yassa Khan

    08/09/2024 Duração: 50min

    Yassa Khan, cyfarwyddwr ffilmiau o Gaernarfon yn wreiddiol yw gwestai Beti George.Mae Yassa Khan yn dweud bod rhannau o’i fagwraeth yn ei atgoffa o’r ffilm maffia Goodfellas – ond yng Nghaernarfon, nid Efrog Newydd. Roedd ei Dad yn lleidr banc adnabyddus o Gaernarfon, ac fe dreuliodd flynyddoedd yn y carchar trwy gyfnod plentyndod Yassa.Doedd tyfu i fyny yn y dre' yn yr 1980au ddim yn hawdd iddo gyda'i dad i mewn ac allan o garchar - ac i wneud pethau'n anoddach, roedd o’n fachgen o dras Pakistani ac yn hoyw.Ond mae ei fagwraeth liwgar wedi arwain ato'n gweithio fel cyfarwyddwr sydd wedi ffilmio'r Pet Shop Boys, Vivienne Westwood a Billie Eilish. Bu hefyd yn gweithio gyda chynllunwyr ffasiwn Gucci a YSL.Yn ddiweddar mae wedi bod yn gweithio ar ffilm Pink, ac ar hyn o bryd yn gweithio ar ffilm hir Daffodil, sydd yn ddarlun o hanes ei fagwraeth.

  • Rhodri Ellis Jones

    01/09/2024 Duração: 50min

    Rhodri Ellis Jones, ffotograffydd dogfen o Ddyffryn Ogwen sy'n byw ger Bologna yn yr Eidal yw gwestai Beti George. Mae wedi gweithio ar draws y byd yn Affrica, Albania, Cuba, Nicaragua ac El Salvador ac wedi dogfennu yn ddiweddar pobol leiafrifol yn China. Mae bellach yn ddinesydd yr Eidal ac yn rhannu hanesion ei blentyndod yn Sling, Tregarth a'r bywyd anturus mae o wedi ei fyw.Fe fydd arddangosfa o'i waith diweddaraf COFIO yn Storiel, Bangor, rhwng Medi'r 7fed tan yr 2il o Dachwedd 2024.

  • Katie Hall

    04/08/2024 Duração: 49min

    Y gantores Katie Hall yw gwestai Beti George. Katie yw prif leisydd y band amgen o Bontypridd, CHROMA. Mae'r band wedi profi llwyddiant yn y blynyddoedd diwethaf, gan ennill cystadleuaeth Brwydr y Bandiau 2016, ac ennill lle yn nghynllun Gorwelion y BBC i artistiaid newydd yn 2018, ynghyd â pherfformio mewn gigs a gwyliau ledled Cymru a thu hwnt. Bu’n cefnogi’r Foo Fighters yn ddiweddar ac yn teithio i Dde Korea. Cafodd ei magu yn Aberdâr. Mynychodd ysgol gynradd Aberdâr ac yna ysgol Uwchradd Rhydywaun. Cafodd ddiagnosis o Dyslecsia yn eithaf ifanc., a thrwy gydol ei dyddiau ysgol yn ffodus iawn, cafodd pob cymorth a chefnogaeth.Dewis ar y funud olaf oedd mynd i astudio Cymraeg yng Nghaerdydd, ac y penderfyniad yma oedd yr allwedd i Katie, ac fe wnaeth hynny newid trywydd ei bywyd. Cafodd ei chyflwyno i fandiau newydd Cymraeg gan ei ffrindiau coleg, wnaeth arwain at ddilyn bandiau a gweithio yn Clwb Ifor Bach.Pan ddaeth CHROMA at ei gilydd, fe wnaeth y triawd sgwennu caneuon Saesneg a Chymraeg yn rhannol er

  • Steffan Donnelly

    28/07/2024 Duração: 50min

    Beti George sydd yn sgwrsio gyda Steffan Donnelly, Cyfarwyddwr Artistig a chyd-gyfarwyddwr Theatr Genedlaethol Cymru. Mae Steffan yn y swydd ers 2 flynedd ac yn sôn am yr heriau mae nhw'n ei wynebu fel cwmni gan bod y cyllid wedi aros run fath ers 2009. Mae hefyd yn sôn am ei fagwraeth yn Llanfair Pwll, Ynys Môn, ac am ei ddiddordeb yn y theatr ers yn ifanc iawn. Fe dreuliodd wyliau haf ei blentyndod yng Ngogledd Iwerddon, cartref rhieni ei Dad, ac mae ganddo atgofion hapus o ymweliadau a'r fferm deuluol. Sefydlodd Gwmni Theatr Invertigo yn 2012 – cwmni sydd wedi teithio ledled Cymru ac yn rhyngwladol gyda sawl cynhyrchiad megis Y Tŵr, My Body Welsh, My People, Derwen, a Gŵyl Rithiol Pererindod. Mae ei waith fel actor yn cynnwys cyfnodau yn y Barbican a Theatr Clwyd, a sawl tymor yn Shakespeare’s Globe.

  • Y Fonesig Elan Closs Stephens

    21/07/2024 Duração: 58min

    Y Fonesig Elan Closs Stephens, Cyn Gadeirydd dros dro'r BBC, yw gwestai Beti a’i Phobol. Mae hi’n trafod ei chyfnod stormus fel Cadeirydd a’i hoffter o gadeirio cyfarfodydd, “ dwi’n gweld o’n debyg i dreialon cŵn defaid” meddai Elan. Mae hi’n ymwneud â 18 o gyrff gwahanol. Mae hi’n sôn am ei chyfnod yn magu’r plant ar ei phen ei hun yn dilyn marwolaeth ei gŵr yn ifanc, ac yn rhannu ei theimladau yn dilyn cael cancr 20 mlynedd nôl a sut mae hi’n byw bywyd wedi hynny. Yn wreiddiol o Dalysarn, Gwynedd, cafodd ei haddysg yn Ysgol Dyffryn Nantlle a Choleg Somerville Rhydychen. Bu'n un o'r merched cyntaf i fod yn aelod o Gymdeithas Dafydd ap Gwilym. Mae hi hefyd yn Ddirprwy Ganghellor Prifysgol Aberystwyth ac yn trafod yr heriau ariannol sydd yn wynebu myfyrwyr heddiw.

  • Mici Plwm

    14/07/2024 Duração: 50min

    Yr actor a digrifwr Mici Plwm yw gwestai Beti George.Fe dreuliodd Mici Plwm 12 mlynedd mewn cartref plant a hynny heb weld ei Fam. Fe gafodd brentisiaeth fel trydanwr ac wedyn gyrfa lewyrchus fel diddanwr a chyflwynydd teledu, ac mae'n un o'r ddeuawd Syr Wynff a Plwmsan. Roedd ei Fam, Daphne Eva Barnett, yn ferch i Ernest Barnett Harrison oedd yn Brif Arolygydd yr Oriel Gelf Genedlaethol Llundain. Fe symudodd adeg yr ail ryfel byd i warchod trysorau a chelfi’r wlad.

  • Alison Roberts

    07/07/2024 Duração: 49min

    Fe gafodd Alison Roberts ei geni a’i magu ym mhentref Killin yn yr Alban, ac fe ddaeth i Gymru pam gafodd alwad gan ffermwr i ddofi un o’i geffylau. Mae hi bellach wedi priodi ac yn byw ar Ynys Môn, ac yn magu 7 o blant. Alison enillodd Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023. Daeth i benderfyniad ei bod yn Gymraes pan enillodd hi gystadleuaeth cneifio yn y Sioe Frenhinol, Llanelwedd. Mae'n gweithio fel gofalwraig ac yn credu ei bod yn bwysig ei bod hi’n siarad Cymraeg gyda'r cleifion.Roedd hi wedi dysgu Cymraeg wrth wrando ar Radio Cymru, gwylio S4C a darllen llyfrau ei merch. Dydy hi erioed wedi cael gwers Gymraeg.

  • Myron Lloyd

    30/06/2024 Duração: 48min

    Mae Myron Lloyd wedi gwirfoddoli efo Eisteddfod Llangollen ar yr ochr farchnata ers blynyddoedd maith, ac yn y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi bod yn edrych ar ôl noddwyr yr Eisteddfod, ond fe ddechreuodd ei chysylltiad bron I 60 mlynedd nol, pan enillodd y wobr 1af yn yr Alaw Werin dan bymtheg oed. Blwyddyn ar ôl hynny, Myron oedd ‘pin up’ yr Eisteddfod a bu ei lluniau mewn gwisg Gymreig ar bob math o nwyddau ar ol I lun ohonno gael ei gyhoeddi yn y gyfrol ‘North Wales in Colour’. Ar y clawr ôl roedd llun mawr o Myron a dynnwyd yn Eisteddfod Llangollen.Cafodd Myron ei derbyn i fynd i’r Coleg Cerdd a Drama yng Nghaerdydd. Ond roedd ei llais y math oedd yn blino’n fuan, meddai hi. Roedd ganddi hefyd ddiddordeb mawr mewn ffermio felly penderfynodd fynd i goleg Gelli Aur i wneud cwrs Amaethyddol. Ar ôl cyfnod yno cafodd gyfweliad efo’r Weinyddiaeth Amaeth a chael swydd yn Nolgellau. Roedd hi’n gweithio mewn labordy yn mynd o gwmpas ffermydd Sir Feirionnydd i gyd a oedd yn gwerthu llaeth.Ond 'da ni dal i fed

  • Karen Wynne

    23/06/2024 Duração: 50min

    Yr actores a'r consuriwr Karen Wynne yw gwestai Beti a'i Phobol. Fe ddechreuodd wneud triciau ar lwyfan pan oedd hi'n 7 oed. Ei thad oedd yn ei dysgu.Roedd wrth ei bodd pan yn ysgol mynd i nosweithiau Y Gymdeithas yn Nhywyn, Yr Urdd, Ffermwyr Ifanc a’r Groes Goch. Roedd Anti Mair Bryncrug yn dod â chriw bach ohonynt at ei gilydd i gynnal nosweithiau llawen. Dechreuodd wneud triciau hud yn y fan honno a hefyd mewn sioeau ysgol a charnifalau.Ar ôl ysgol a choleg aeth i'r byd actio, ac fe dreuliodd bymtheg mlynedd yn portreadu un o gymeriadau Rownd a Rownd. Ond pan ddaeth hynny i ben fe drodd at fyd hud a lledrith a bellach mae'n defnyddio'r gelfyddyd honno i helpu plant i fagu hyder ac i helpu pobol sydd yn fregus yn feddyliol.

  • Ffion Gruffudd

    16/06/2024 Duração: 50min

    Gwestai Beti George yw Ffion Gruffudd, Cyfreithwraig sydd yn cael ei chydnabod gan fforwm economaidd y byd fel un sydd yn arbenigo ar ddiogelwch seiber. Mae hi'n Bennaeth diogelwch seiber byd eang i gwmni anferth, Allen & Overy and Shearman. Mae Ffion yn ymwneud gydag achosion mawr iawn ac mae llawer iawn o gyfrifoldeb a phwysau ar ei hysgwydd. Mae hi’n gweithio’n agos iawn gyda chanolfan National Cyber Security yma ym Mhrydain a'r FBI yn America.Mae Ffion yn wreiddiol o Gwm Gwendraeth. Mae hi hefyd wedi sefydlu hwb creadigol Coco & Cwtsh yn Sir Gâr.

página 1 de 30