Beti A'i Phobol
Laura Karadog
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editora: Podcast
- Duração: 0:54:24
- Mais informações
Informações:
Sinopse
Laura Karadog ydi'r cwmni, ac fe gawn glywed am ei magwraeth yn Nhal-y-bont ger Bangor, a'i chyfnod hapus yn Ysgol Llanllechid ac Ysgol Dyffryn Ogwen - a'i thaith yn 12eg mlwydd oed i Czechoslovakia. Mae hi'n sôn am y profiad o fyw yn Tokyo, gweithio yn San Steffan a'i chyfnod yn Philadelphia yn dysgu mwy am y Crynwyr. Fe fu'n brwydro'r clefyd anorecsia yn ystod ei chyfnod yn y Brifysgol yn Aberystwyth, a dyna wnaeth iddi droi at Yoga. Erbyn hyn mae hi'n byw ym Mhontyberem ar ôl cyfnod o fyw gyda'r teulu yn Llydaw. Mae hi'n rhannu straeon rif y gwlith ac yn sôn am ei phrofiadau personol, yn ogystal â dewis ambell i gân sydd wedi creu argraff, o Bendigeidfran gan Lleuwen i 'This is Me' - cân allan o’r sioe The Greatest Showman.