Beti A'i Phobol

Joe Healy

Informações:

Sinopse

Joe Healy, enillydd Dysgwr y flwyddyn yw gwestai Beti George wrth i ni ddathlu Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg.O Wimbledon yn Ne Llundain y daw Joe Healy ond mae wedi bod yn byw yng Nghaerdydd ers degawd.Fe ddaeth i'r brifddinas i fynd i'r brifysgol, ac mae wedi aros. Fe ddechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2018 ac mae'n trafod sut wnaeth o ddysgu'r iaith. Mae'n rhannu hanesion ei gyfnod yn Peru ac yn dewis ei hoff ganeuon yn cynnwys rhai gan Breichiau Hir a Datblygu.Llun: Dafydd Owen - ffotoNant.