Beti A'i Phobol

Meleri Davies

Informações:

Sinopse

"Cymuned, Amgylchedd, Economi - dyna ydy calon ein gwaith ni yn Partneriaeth Ogwen, Meleri Davies Prif Swyddog Partneriaeth Ogwen yw gwestai Beti George. Cafodd ei magu ar y fferm Hendre yng Nghwm Prysor sydd rhyw 3 milltir o Drawsfynydd ar y ffordd i Bala a'r Fferm fynydd yn magu defaid Cymreig. Mae hi yn un o 4 o blant - y cyw melyn olaf. Dewi Prysor yr awdur ydi’r hynaf sy’n byw ym Mlaenau Ffestiniog, yna Manon sy’n byw yn Sir Fôn sy’n actores ac yn cynnal gweithdai, a mae Rhys sy’n ffermio adref, fo ydi’r 3ydd genhedlaeth i ffermio yno. Fel Prif Swyddog, mae Meleri yn angerddol am dyfu Partneriaeth Ogwen fel menter gymdeithasol sy’n gwneud gwahaniaeth – yn amgylcheddol, gymunedol ac economaidd. Mae wedi arwain ar brosiectau mwyaf y Bartneriaeth, yn cynnwys datblygiad Ynni Ogwen, canolfan Dyffryn Gwyrdd a throsglwyddiadau asedau. Ers ei phenodiad, mae wedi ennill gwobr Pencampwr Cynaladwyedd Cymru yng ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru a Green Energy Pioneer yng ngwobrau Regen Prydain.Dechreuodd Partneriaet