Beti A'i Phobol

Iestyn Davies

Informações:

Sinopse

Dros y blynyddoedd mae’r cyn-dditectif a Phrif Arolygydd Iestyn Davies wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau bod yr heddlu’n cynnig gwasanaethau Cymraeg. Wedi treulio 30 mlynedd gyda Heddlu’r Gogledd, mae Iestyn bellach yn Bencampwr y Gymraeg gyda’r cwmni sy’n gyfrifol am redeg cyrsiau i’r rhai sydd wedi eu dal yn goryrru. UKROEd (UK Road Offender Education) sy’n rhoi trwyddedau i gwmnïau eraill i hyfforddi pobol sydd wedi eu dal yn gyrru yn gyflymach na’r terfyn, a gwaith Iestyn yw sicrhau bod y cwmnïau yng Nghymru yn cydymffurfio â rheolau iaith.Cyn hynny, bu’r gŵr sy’n byw ym Mhorthaethwy ym Môn yn arwain y tîm oedd yn edrych ar droseddau difrifol, gan gynnwys llofruddiaethau a ddenodd sylw'r byd. Mae Iestyn yn rhannu straeon bywyd ac yn sôn am y sialensiau a'r mwynhad a gafodd o wneud y gwaith.