Beti A'i Phobol
Y Parchedig John Owain Jones
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editora: Podcast
- Duração: 0:51:30
- Mais informações
Informações:
Sinopse
Mae'r Parchedig John Owain Jones yn ymddeol fel Gweinidog ar Ynys Bute yn mis Chwefror 2023 ar ôl treulio 12 mlynedd fel Gweinidog yno. Cafodd ei eni yn Llanelwy a’i fagu yn Rhyl nes roedd yn 13 oed, cyn symud i Gaernarfon. Roedd ei Dad yn gweithio i’r Swyddfa Bost a chafodd swydd fel Post feistr yn Nghaernarfon.Mae cysylltiad Owain â'r Alban wedi bod yno bron o’r cychwyn. Wedi i’w rieni ddyweddïo roedd ei Dad eisiau arian i brynu tŷ felly aeth i weithio am gyfnod i’r Swyddfa Bost yn Rhodesia. Ar y llong ar ei ffordd draw yno rhannodd fync ar y llong gyda David Walker a oedd yn dod o Ynys Bute. Daeth ei Dad ac yntau’n ffrindiau pennaf a bu’n was priodas i’w Dad. Priododd ei fam a’i dad yn Salisbury, Rhodesia (Harare bellach). Priodwyd y ddau yn y Second Presbyterian Church ac roedd y Gweinidog yn dod yn wreiddiol o St Andrews (lle bu Owain yn y Brifysgol), a dychwelodd David yn ôl i Ynys Bute yn ddiweddarach. David hefyd oedd tad bedydd Owain a’i frawd Gethin. Bob haf roedd y teulu’n mynd draw i Ynys Bute ar