Beti A'i Phobol
Miriam Lynn
- Autor: Vários
- Narrador: Vários
- Editora: Podcast
- Duração: 0:51:01
- Mais informações
Informações:
Sinopse
Dr Miriam Lynn sy'n arbenigo ar gydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth mewn gwahanol feysydd yw gwestai Beti a'i Phobol. Cafodd ei magu ym mhentref bach Llanfynydd ger y Wyddgrug. Ei thaid oedd yr emynydd enwog John Roberts Llanfwrog, ac mae Miriam yn sôn am ei hafau hapus yn Sir Fôn gyda Thaid a Nain. Mynychodd Brifysgol Dundee i astudio Microbioleg. Fel rhan o’i gradd cafodd flwyddyn i astudio yn Edmonton Canada. Treuliodd amser gorau ei bywyd yno yn cael cyfle i deithio, sgïo a mynd i ‘r Rockies bob penwythnos. Ar ôl graddio gwnaeth Ddoethuriaeth yn Newcastle mewn Microbioleg, ond ‘roedd well ganddi weithio gyda phobol, ac yn y blynyddoedd diwethaf bu yn gweithio yn cefnogi pobl ifanc LGBTQ+. Fe gafodd ddiagnosis o MS pam yn 37 mlwydd oed, ac mae hynny wedi newid ei bywyd. Mae hi wedi addasu ei ffordd o fyw, ac yn gweithio rhan amser. Mae hi’n hanner Iddewes, bu’n perthyn i’r Crynwyr a nawr Bwdïaeth sydd yn rhoi iddi hapusrwydd a llonyddwch. Mae hi'n rhannu straeon bywyd ac yn dewis ambell i gân.